English Version

Yn y telerau ac amodau hyn mae gan y geiriau canlynol yr ystyr canlynol. "AFD" - Anglesey Furniture Design. Perchennog, a'r sawl sy'n gweithredu'r safle Wê hwn yw Anglesey Furniture Design. Os oes gennych ymholiadau cysylltwch â ni. Ffôn: +44 (0)7815141925 ebost: tomos_w@hotmail.com
Neu ysgrifennu at:

Tomos Williams
Anglesey Furniture Design
Tyddyn Leci
Llanfwrog
Caergybi
Ynys Môn
LL65 4YL

Mae'r holl lyniau sydd ar y Wefan er gwybodaeth yn unig a'u hunig bwrpas yw i roi disgrifiad brâs a throsolwg o'r eitemau ddisgrifir ynddi ac felly nid yw'n rhan o unrhyw Gytundeb. Tra bo AFD yn ceisio sicrhau fod disgrifiadau, ffotograffau a manylion eitemau ar y Wefan yn gywir, fe all mân newidiadau ddod i'r amlwg oherwydd y broses ffotograffic, dyblygu, meddalwedd y rhyngrwyd, neu'r system gyfrifiadurol ddefnyddir yn ogystal ag elfen gwaith llaw rhai eitemau. Ni fydd AFD yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw wahaniaeth or fath nac o ganlyniad nodi gwahaniaeth ddaw yn sgil hyn. Wrth archebu Eitemau drwy ddefnyddio'r Wefan, mae'r Prynwr yn cytuno i ymrwymo i'r Telerau ac Amodau a ganlyn.

1.Prisio a Thalu

1.1 Nodwch nad yw unrhyw amcan bris gyflwynir neu unrhyw brisiau ddanghosir ar y Wefan yn cynnwys costau cludiant na gosod. ( Gellir rhoi amcan bris pe byddai angen).

1.2 AFD fydd unig berchennog yr eitemau hyd nes bo'r Prynwr yn cyflwyno'r pris cytunedig yn llawn gan glirio taliadau am holl eitemau yn y Cytundeb ac unrhyw gytundeb arall rhwng y partion.

1.3 Mae prisiau'n cynwys TAW ac yn frasgywir ar gyfer pob dyluniad ddanghosir ac fe allent newid ychydig o ystyried newidiadau prisiau deunyddiau a llafur ar y pryd. Os yw'r dyluniadau'n esblygu mewn maint neu fanylder, neu os bydd angen rhagor o waith yn ychwanegol i'r disgrifiad gwreiddiol byddai'n rhaid ail-brisio ar gyfer y newidiadau hyn.

1.4 Mae gan AFD yr hawl i addasu pris taladwy ar infois yn ôl maint y gostyngiad neu chwyddiant mewn costau wedi i bris gael ei awgrymu. Fe fydd yr infois gaiff ei haddasu yn daladwy fel pe byddai'r infois gwreiddiol.

1.5 Anfonir cadarnhad drwy ebost i'r Prynwr pan dderbynir archeb ac eto pan fydd yr archeb yn barod iw hanfon allan o'r gweithdy.

1.6 Os yw’r Prynwr yn siopa o’r tu allan i’r DU, bydd cwmni cerdyn credyd y Prynwr yn trosi’r gweithrediad i arian lleol y Prynwr. Cyfrifoldeb y Prynwr yn unig fydd unrhyw daliadau ychwanegol a ddioddefir yn sgil trosi arian o’r fath. Cyfrifoldeb y Prynwr fydd unrhyw ddyletswyddau tollau neu fewnforio a godir unwaith y bydd yr Eitem yn cyrraedd pen ei daith yng ngwlad y Prynwr gan nad oes gan AFD unrhyw reolaeth dros y taliadau hyn ac ni all eu rhagweld.

2. Newid neu ganslo archeb

Fe fyddwn yn archebu deunyddiau ar gyfer eich cynnyrch yn fuan wedi derbyn eich archeb. Cymerwch sylw o'r canlynol cyn gosod archeb gyda ni os gwelwch yn dda:

2.1 Pe byddech am unrhyw reswm yn penderfynu canslo archeb, rhaid gwneud hynny'n hysbys i AFD o fewn 7 diwrnod o wneud yr archeb gwreiddiol. Os ydym wedi dechrau gwaith ar eich cynnyrch neu wedi archebu deunyddiau yn arbennig ar gyfer eich cynnyrch chi, bydd AFD yn cadw cyfran o unrhyw ad-daliad gan gymeryd pris llafur, pris deunyddiau ac unrhyw gostau eraill i ystyriaeth.

2.2 Pe byddech yn penderfynu gwneud newidiadau i faint, deunyddiau neu fanylion eich cynnyrch byddai rhaid talu pris ychwanegol neu dderbyn gostyngiad yn unol a phrisiau deunyddiau neu gostau llafur cyfredol fyddai'n ynghlwm â'r newidiadau hynny.

3.Cadarnhau gwaith, oediad a phroblemau eraill

3.1 Rhaid i gwsmeriaid wirio'n ofalus a rhoi sêl bendith ar unrhyw ddisgrifiadau ysgrifenedig, lluniadau neu samplau gorffenedig os ar gael gyda unrhyw eitem archebir. Gwneir pob cynnyrch i'r mesuriadau gyflwynir ar y dyluniadau gyflwynir. Rhaid fydd talu pris ychwanegol am unrhyw ddyluniadau prosiect eraill angenrheidiol i gwbwlhau dyluniad.

3.2 Cymerir gair y cwsmer gyfystyr a chadarnhad ysgrifenedig pe byddai cwsmer yn dewis peidio anfon cadarnhad ysgrifenedig yn ôl i'r cwmni.

3.3 Mae holl amseroedd cynhyrchu yn amcan gyfrif o'r amser gymerir i greu a chwbwlhau unrhyw ddyluniad. Gall oediad mewn cynhyrchu ddigwydd oherwydd oediad ar ran y cwsmer yn cadarnhau dyluniad neu sampl gorffenedig, cymhlethdodau heb eu rhagweld wrth archebu nwyddau, cyfyngiadau dylunio ac yn y blaen. Ni fydd AFD yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am oediadau tu hwnt iw rheolaeth.

4. Atebolrwydd Cynnyrch

4.1 Nid yw AFD yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnyrch unwaith mae'n gadael y gweithdy.

4.2 Ni ellir rhoi cyfrifoldeb ar AFD am unrhyw broblemau all ddigwydd i gynnyrch yng nghartref neu leoliad gwaith cwsmer ac nid yw'n gyfrifol am unrhyw anaf , nam neu farwolaeth all ddigwydd yn y safleoedd hyn o ganlyniad i ddefnydd priodol neu amhriodol o'r cynnyrch hynny.

4.3 Ni fydd AFD yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wisgo naturiol, chwyddo neu gywasgu mewn pren neu uniad oherwydd dangos i oleuni haul, newidiadau hinsawdd, cyfyngiadau i ddeunyddiau gorffeniad dan unrhyw amodau, dewis deunyddiau neu ddyluniad gan y cwsmer, newid meddwl ar ran y cwsmer neu unrhyw rwymedigaeth all arwain o ddefnyddio'r cynnyrch.

4.4 Gan fod yr holl gynnyrch wedi'i gwneud i archeb gyda llaw ac yn unigryw, nid ydym yn cynnig na golygu sicrwydd cyfreithiol o unrhyw fath.

5. Cludiant

5.1 Mae perchnogaeth eitemau yn parhau gyda AFD hyd nes bydd y cwsmer wedi talu'n llawn am y cynnyrch y pris cytunedig a chlirio unrhyw ddyledion yn unol â'r cytundeb wnaed.

5.2 Bydd cwsmeriaid Tramor,Prydain a thu hwnt i Brydain yn talu'r pris cludiant a phostio ddanghosir am eitemau or fath. Os bydd angen danfon eitem dros y môr dylai'r Prynwr gysylltu a AFD ar +44 (0)1407 730569 neu ebostio tomos_w@hotmail.com i gael gwybodaeth ynghylch trefniadau a chostau cludiant.

5.3 Ni fydd AFD yn gyfrifol am oediad mewn cludiant achosir gan y Cwmni Cludiant neu unrhyw drydydd person arall.

5.4 Pe byddai'ch dodrefn yn eich cyrraedd wedi'i ddifrodi mewn unrhyw ffordd, fe ddylech drafod y mater yn uniongyrchol gyda'r person yn gyfrifol am y cludiant i gael gwybod sut i gael ad-daliad yn eu herbyn gan mai'r Cwmni cludo fyddai'n gyfrifol yn y lle cyntaf.

5.5 Y Prynwr fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau cysylltiedig a chludiant, pacio ac unrhyw dollau a chostau eraill ynghlwm a'r eitemau archebwyd.

5.6 Disgwylir i'r Prynwr roi gwybod i AFD o unrhyw brinder neu ddifrod i eitem neu eitemau a ddanfonir neu a gesglir o fewn 24awr ar hugain o wneud hynny. Yn ogystal, disgwylir cadarnhad ysgrifenedig o'r prinder neu ddifrod o fewn saith diwrnod o dderbyn neu gasglu'r eitem.

6.Dychwelyd eich archeb

6.1 Gan fod ein holl gynnyrch wedi'i dylunio'n arbennig ar gyfer anghenion cwsmer unigol, ac yn unigryw, mae pob gwerthiant yn derfynol ac NID yw dychwelyd eitem yn bosibl dan unrhyw amodau. 6.2 Os nad ydych yn hollol hapus a'ch cynnyrch rhaid i chi gysylltu ac AFD o fewn 24awr ar hugain o dderbyn eich dodrefn. Fe wnawn bopeth mewn rheswm i geisio datrys y broblem gyda unrhyw eitem wnaed ganddom ni.

7.Arddangos cynlluniau wnaed ar eich cyfer chi

7.1 Mae AFD yn cadw'r hawlfraint i bob dyluniad ac i arddangos eich cynlluniau ar eu Gwefan fel rhan o'u portffolio Cynnyrch. Fe allwn hefyd gynnig gwerthu addasiadau o'ch cynllun chi i gwsmeriaid newydd.

8.Gwerthiant drwy'r Wefan

8.1 Ni roi'r caniatad i efelychu, ail greu, addasu na lawr- lwytho'r Wefan nac ychwaith unrhyw ran ohoni. Ni ellir ail gynhyrchu unrhyw beth ar gyfer argraffu mewn dogfen arall ac ni roddir canitad i ddosbarthu unrhyw wybodaeth heb yn gyntaf cysylltu â AFD a chael hawl ysgrifenedig ganddynt i wneud hynny.

8.2 Mae unrhyw wybodaeth ddarganfyddir ar y Wefan ar gael ar gyfer arweiniad yn unig ac fe all eitemau a phrisiau newid ar unrhyw adeg ac ar fyr rybydd. Nid ydym yn honi fod unrhyw wybodaeth yn gywir nac yn gyflawn. Nid yw AFD yn honi ychwaith fod unrhyw wybodaeth yn gyfredol.