English Version

Cwmni ifanc yw Anglesey Furniture Design wedi'i leoli ar arfordir Gogledd Ddwyreiniol Ynys Môn. Lansiwyd y Cwmni yn sioe ddodrefn 100% East yn Llundain; ers hynny llwyddom i gynhyrchu dodrefn ar gyfer cartrefi traddodiadol neu fodern. 'Rydym yn cynllunio a chynhyrchu dodrefn bispôc ar gyfer anghenion arbennig y cwsmer. Drwy ddefnyddio deunyddiau naturiol yn bennaf, mae gan ein cynnyrch ogwydd syml ac effeithiol. Mae cadw'r balans rhwng ffurff a phwrpas yn elfen bwysig iawn o'n gwaith. Er i ni ddefnyddio Derw'n bennaf mae cyfuno 'deunyddiau newydd' yn golygu fod ein dodrefn yn eistedd yn hapus yn unrhyw amgylchedd.

Mae Anglesey Furniture Design yn hapus i gydweithio â chwmniau masnachol bychain ac unigolion sydd am bwrcasu dodrefn cadarn o waith llaw . Croesawir mewnbwn y cwsmer wrth ddylunio a chynllunio'r cynnyrch, ac fe gedwir cysylltiad agos hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwbwlhau.