Bu'r Cynllunydd a Gwneuthurwr Dodrefn, Tomos Rhys Wheldon Williams yn cynhyrchu dodrefn unigryw o goed caled ers graddio o Goleg Celf Caeredin yn ystod 2006. Addysgwyd ef yn Ysgol Ffrŵd Win, Llanfaethlu ac Ysgol Uwchradd Bodedern cyn ymaelodi a Chwrs Celf Sylfaenol yng Ngholeg Menai, Bangor. Aeth ymlaen i astudio ac ennill Gradd mewn Celf Gynhwysol. Sefydlodd ei weithdy yn Amlwch, Ynys Môn lle mae`n cynhyrchu dodrefn ar gyfer cartrefi yn ogystal â'r farchnad fasnachol.